Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Enghraifft o'r canlynolbyrddau Iechyd Cymru Edit this on Wikidata
Rhan oGIG Cymru Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaYsgol Feddygol Gogledd Cymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Hydref 2009 Edit this on Wikidata
RhagflaenyddBwrdd Iechyd Lleol Conwy, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Gwynedd, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru Edit this on Wikidata
Isgwmni/auYsbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Abergele, Ysbyty Dinbych, Ysbyty Brenhinol Alecsandra, Ysbyty Cyffredinol Llandudno, Ysbyty Cymunedol Bae Colwyn, Ysbyty Cymunedol Rhuthun, Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy, Ysbyty Cymunedol Yr Waun, Ysbyty Cymunedol Treffynnon, Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug, Ysbyty Bryn Beryl, Ysbyty Dolgellau ac Abermaw, Ysbyty Penrhos Stanley, Ysbyty Alltwen, Ysbyty Coffa Tywyn, Canolfan Iechyd Llangollen, Canolfan Goffa Ffestiniog, Ysbyty Cymunedol Y Fflint Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://bcuhb.nhs.wales/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Saesneg: Betsi Cadwaladr University Health Board) yw'r sefydliad iechyd newydd ar gyfer gogledd Cymru, a hynny er 1 Hydref 2009 pan unwyd tair ymddiriedolaeth iechyd y rhanbarth - sef Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Conwy a Sir Ddinbych - yn un. Roedd hyn yn rhan o ad-drefnu'r Gwasanaethaeth Iechyd Genedlaethol ar draws Cymru. Enwir y Bwrdd ar ôl Betsi Cadwaladr, nyrs o'r 19eg ganrif. Lleolir y pencadlys yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.[1]

Dyma'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae'n gwasanaethu ardal eang sy'n cynnwys 676,000 o bobl sy'n byw yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Sir Wrecsam, yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru a rhannau o Swydd Gaer a Swydd Amwythig dros y ffin yn Lloegr.[1]

Mae 18,000 aelod o staff yn cael eu cyflogi gan y Bwrdd ac mae ganddo gyllideb o tua £1.1 biliwn y flwyddyn (2010). Y tri phrif ysbyty yw Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.[1]

  1. 1.0 1.1 1.2 Gwybodaeth gyffredinol ar wefan y Bwrdd.

Developed by StudentB